Falch i cefnogi Tŷ Hafan gyda’n hamser

Rydym yn frwd dros gefnogi ein cymuned leol ac yn falch o fod wedi gweithio gyda Thŷ Hafan ar ddau brosiect eleni.
Dros yr haf, treuliodd tîm o 10 o gydweithwyr y diwrnod yn trawsnewid llain gardd yn yr hosbis. Diolch i Christian Stanbury, Charlotte Arnell, Anne McDonald, Paul Poole, Neil Cutting, Jan Morgan, Romain Baird a Dan McCarthy-Stott am eu hamser.
Cawsom hefyd weld ein gwaith gwirfoddoli yn dod yn fyw yn agoriad Gardd Goffa Atgofion Gwerthfawr Tŷ Hafan yn y Barri.
Wedi’i gynllunio fel gofod heddychlon a myfyriol lle gall ffrindiau a theuluoedd gymryd amser i gofio anwyliaid, agorwyd y gerddi hardd yn swyddogol gan Brif Weithredwr Tŷ Hafan, Irfon Rees, Maer y Barri, y Cynghorydd Catherine Iannucci-Williams, a’r Cynghorydd Elliot Penn, a Maer Bro Morgannwg. Roedd Lisa Garfield, Christian Stanbury, Paul Poole a Jan Morgan o’n tîm hefyd yn bresennol.
