Buddion Cymuned
Er bod ein hadeiladau’n Net Zero Carbon ar waith ac wedi’u hadeiladu i safonau rhagorol BREEAM, nid yw WEPCo yn ymwneud â darparu adeiladau newydd yn unig.
Rydym yn gwella dyheadau pobl ifanc drwy gefnogi gwelliannau mewn cyrhaeddiad, darparu ‘gwerth ychwanegol’ drwy fanteision cymunedol, ac annog ymgysylltu â phobl ifanc a’r gymuned leol.
Dyna pam mae budd cymunedol wedi’i ymgorffori’n gytundebol yn ein cadwyn gyflenwi. Mae hynny’n golygu ein bod ond yn ymgysylltu â phartneriaid sy’n rhannu ein gwerthoedd ac sydd wedi ymrwymo i wella cymunedau.
Mae pob cymuned yn wahanol. Felly, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a cholegau i bennu’r angen mwyaf a nodi lle y gallwn gael yr effaith fwyaf cadarnhaol. Nid yn unig yn ystod y cyfnod adeiladu, ond yn ystod y 25 mlynedd nesaf.
Dyma rai o’r ffyrdd y mae ein prosiectau wedi darparu buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol hyd yn hyn:
Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (SDGs)
Mae pob project WEPCo yn alinio gyda pedwar o’r SDGs y CU:



