Blaenoriaethau

Datgarboneiddio
Datblygu ysgolion ar gyfer y dyfodol, gan ddefnyddio adnoddau’n effeithlon ac yn gymesur i gyfrannu at fesurau yn erbyn newid yn yr hinsawdd

Cenedlaethau’r Dyfodol
Gweithredu er budd cenedlaethau’r dyfodol, gan ymgorffori ac alinio ein gwaith a’n hymgysylltiad â’r 5 ffordd o weithio

Budd Lleol
Gweithredu er budd lleol, sicrhau bod ein rhaglenni’n cyfrannu at yr economi leol, gwella ein cymunedau lleol

Caffael Cynaliadwy
Ystyried effaith amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ein caffaeliad, gan ddarparu gwerth am arian ar sail oes gyfan o ran creu buddion nid yn unig i’r sefydliad, ond hefyd i gymdeithas a’r economi, gan leihau niwed i’r amgylchedd ar yr un pryd

Amrywiaeth a Chynhwysiant
Gwerthfawrogi amrywiaeth a chydnabod y cyfrifoldeb i flaenoriaethu a hyrwyddo cynhwysiant. Cymryd camau i ddileu rhwystrau annheg ac amhriodol, gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar degwch a theilyngdod, a thrin pobl â pharch ac urddas

Atebolrwydd a Thryloywder
Ymddwyn yn gyfrifol a gyda thryloywder