Partneriaethau
Mae WEPCo yn adeiladu partneriaethau hirhoedlog gyda rhanddeiliaid allweddol i gyflawni prosiectau Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) sy’n canolbwyntio ar y gymuned.
Mae lefel yr ymgysylltu, a’r argaeledd cyson, i fynd i’r afael ag ymholiadau mewn modd amserol a phroffesiynol wedi bod o gymorth mawr i dîm y sector preifat a thîm y sector cyhoeddus gydweithio a gwneud cynnydd rhagorol. Drwy gydol y cyfnod anodd hwn mae perthnasoedd wedi cryfhau ac mae cyfathrebu wedi bod o’r radd flaenaf ac mae’r Cyngor wedi bod yn ddiolchgar am barchusrwydd a dealltwriaeth o’r blaenoriaethau cystadleuol niferus y mae’r Cyngor wedi’u hwynebu yn ystod pandemig Covid. Mae’n destament i’r berthynas gref a luniwyd ar y cychwyn fod cynnydd eithriadol yn parhau i gael ei wneud ac edrychwn ymlaen at gam nesaf y daith gyffrous hon.
Andrea Richards Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid
– Cyngor Rhondda Cynon Taf
Os ydych yn teimlo y gallwn helpu mewn unrhyw ffordd drwy eich busnes, ysgol, awdurdod lleol neu sefydliad, yna peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.
Hyfforddiant sgiliau wedi’i ariannu’n llawn
Crëwyd Academi WEP i helpu i uwchsgilio cadwyn gyflenwi diwydiant adeiladu Cymru, gan ganolbwyntio ar yr agenda datgarboneiddio a hyrwyddo arloesedd.
Mae cyrsiau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gael am ddim i chi, gan ddarparu llwybr hyblyg a hygyrch i uwchsgilio eich gweithlu adeiladu.
Gydag Academi WEP gallwch: