Grŵp Colegau NPTC
Coleg Castell-nedd Port Talbot
Bydd campws newydd ar gyfer Grŵp Colegau Coleg Castell-nedd Port Talbot (NPTC) yn cael ei adeiladu fel rhan o gynllun datblygu ac adfywio Glannau’r Harbwr ar gyfer Port Talbot.

Bydd y coleg newydd yn darparu y gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd yng ngholeg Afan NPTC, gan gynnwys canolfannau rhagoriaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol a gwasanaethau peirianneg ac adeiladu, yn ogystal â mannau ar gyfer celf a dylunio a gwyddoniaeth. Bydd therapïau gwallt, harddwch a chyfannol yn cael eu lleoli mewn adeilad “ffordd o fyw”.

Bydd yr adeilad yn cael ei redeg fel busnes hunangynhaliol trwy ddarparu gwasanaethau i ganol y dref. Er mwyn helpu i roi bywyd a buddsoddiad i’r ardal gyfagos, dim ond siop goffi ar fasnachfraint fydd gan y datblygiad addysg newydd, gan annog myfyrwyr i ddefnyddio cyfleusterau yng nghanol tref Port Talbot.

Myfyrwyr: | 1,400 |
Maint: | 12,410m2 |
Contractwr Dylunio ac Adeiladu: | I’w benodi |
Darparwr Rheoli Cyfleusterau: | I’w benodi |
Gweithredol: | I’w benodi |
Llinell amser