Coleg Sir Gâr
Coleg Sir Gâr, Campws Pibwrlwyd, Caerfyrddin
Mae’r Prosiect Coleg Sir Gâr yn ailddatblygu Campws Pibwrlwyd presennol yng Nghaerfyrddin. I adlewyrchu statws y Coleg fel Canolfan Ragoriaeth WorldSkills, mae’r prosiect yn cynnwys darparu cyfleusterau newydd o’r radd flaenaf, ar gyfer ystod o sgiliau technegol gan gynnwys adeiladu, arlwyo a’r celfyddydau creadigol. Unwaith y bydd yr adeiladau newydd wedi’u cyflawni bydd yr adeiladau presennol yn cael eu dymchwel a’r safle yn cael ei ail-dirlunio.

Bydd y campws yn gartref i fyfyrwyr 14-19 oed, yn ogystal â phrentisiaid, myfyrwyr addysg uwch a dysgwyr sy’n oedolion.

Bydd cymysgedd o gyrsiau galwedigaethol yn cael eu cynnig, gan gynnwys gwyddor anifeiliaid, busnes, adeiladu, arlwyo, a Sgiliau Dysgu Annibynnol (SDA). Bydd elfen celfyddydau creadigol y cyfleusterau yn cynnwys tecstilau, celfyddydau digidol, animeiddio, ffotograffiaeth, paentio, gosodiadau, cyfryngau, lluniadu, gwneud printiau, cerameg, gemwaith, dylunio gemau a cherflunio.
Bydd y cyfleusterau ar gael i’r gymuned a busnesau lleol.

Mae’r campws newydd yng Nghaerfyrddin, ‘Campws Caerfyrddin’, yn gam gweledigaethol ymlaen mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Gan gyfuno technoleg uwch a dylunio cynaliadwy cyfoes, bydd y campws hwn yn dyrchafu profiad y dysgwr ac yn gweithredu fel canolbwynt a chonglfaen ar gyfer twf economaidd ledled Sir Gaerfyrddin.
Wedi’u hangori yn y gymuned, bydd y cyfleusterau o safon fyd-eang a safonau uchel mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol yn rhoi’r amodau gorau oll i ddysgwyr o bob oed ddatblygu neu ailddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Bydd hyn yn ei dro yn caniatáu iddynt symud yn hyderus i’w llwybr gyrfa dewisol neu barhau ar eu taith dysgu gydol oes.
Bydd ein perthynas â chyflogwyr o fewn y rhanbarth yn agwedd allweddol ar ddatblygiad y campws ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith gyda ‘phartneriaid presennol yn ogystal â chreu lle i berthnasoedd newydd ffynnu.
Andrew Cornish, Pennaeth a Phrif Swyddog Gweithredol Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion
Myfyrwyr: | 2,385 |
Maint: | 14,857m2 |
Contractwr Dylunio ac Adeiladu: | I’w benodi |
Darparwr Rheoli Cyfleusterau: | I’w benodi |
Gweithredol: | 2029 |
Llinell amser